Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ionawr 2020
Newid enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Diben
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys cynigion ar gyfer teitlau a chylchoedd gwaith pwyllgorau.
2. Mae'r adroddiad yn nodi'r rhesymeg dros y cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i newid teitl a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Cefndir
3. Yn ei gyfarfod ar 21 Ionawr 2020, nododd y Pwyllgor Busnes argymhelliad diweddar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru y dylai'r Cynulliad fod yn fwy rhagweithiol o ran craffu ar y ffordd y mae’r system gyfiawnder yn gweithio ac y dylai fonitro ac adolygu'r cynnydd a wneir ynghylch diwygio cyfiawnder.
4. Hefyd, fe nododd y Pwyllgor gyfarfod y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 11 Rhagfyr lle y cytunwyd nad oes capasiti ar hyn o bryd ar gyfer pwyllgor cyfiawnder ar wahân fel y’i darlunnir yn yr adroddiad, ond y gallai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fod yn gyfrwng addas ar gyfer ymgymryd â gwaith yn y maes hwn o ystyried bod ganddo gylch gwaith cyfansoddiadol eang. Cytunwyd hefyd y byddai angen eglurder ynghylch swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Pwyllgor o ran cyfiawnder, ac y dylai'r Materion Busnes ystyried y materion hyn.
Penderfyniad
5. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y dylai’r Cynulliad newid enw'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Cytunodd hefyd i gynnwys cyfeiriad at gyfiawnder yn ei gylch gwaith, fel a ganlyn:
I gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21 ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â deddfwriaeth, cyfiawnder a’r cyfansoddiad sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.
6. Nododd Rheolwyr Busnes fod swyddogaethau mewn perthynas â chyfiawnder sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad ac sydd o fewn cylch gwaith pwyllgorau eraill – megis gwasanaethau i gefnogi troseddwyr a chyn-droseddwyr, a hyrwyddo adsefydlu sy'n ymwneud â thai, addysg a hyfforddiant, datblygu economaidd a llywodraeth leol – yn parhau’n gyfrifoldebau'r pwyllgorau hynny.